Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
14 Tachwedd 2016
SL(5)024 – Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012 sy’n pennu, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt wrth fesur perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.
Bydd dirymu Gorchymyn 2012 yn cael gwared ar y gofyniad statudol i baratoi’r dangosyddion perfformiad a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
Deddf Wreiddiol: Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009
Fe’i gwnaed ar: 1 Tachwedd 2016
Fe'i gosodwyd ar: 2 Tachwedd 2016
Yn dod i rym ar: 24 Tachwedd 2016